Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2020
Amser:
09.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Graeme Francis - Clerc y Pwyllgor
Ross Davies – Dipwrwy Glerc
0300 200 6565
Deisebau@cynulliad.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae'r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
(Tudalennau 1 - 39)
2 Deisebau COVID-19
2.1 P-05-968 Talu grantiau Coronafeirws i bob busnes sy'n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yr un fath â gweddill y DU
(Tudalennau 40 - 49)
2.2 P-05-970 Gofynnwch i’r Senedd ailystyried ei phenderfyniad i beidio â rhoi cyllid brys i swau ac acwaria
(Tudalennau 50 - 59)
Bydd y ddwy eitem a ganlyn yn cael eu trafod ar y cyd (2.3 a 2.4)
2.3 P-05-971 Dylid llacio’r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan ddeddfwriaeth COVID-19 er mwyn caniatáu i bobl deithio yng Nghymru
(Tudalennau 60 - 66)
2.4 P-05-989 Cadw’r cyfyngiadau a osodwyd gan ddeddfwriaeth Covid 19, caniatáu teithio o fewn radiws o 5 milltir yn unig yng Nghymru
(Tudalen 67)
2.5 P-05-972 Dylid darparu o leiaf bedair awr y dydd o addysg fyw i bob disgybl tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19
(Tudalennau 68 - 76)
2.6 P-05-973 Ailagor siopau barbwyr a siopau trin gwallt cyn belled â'u bod yn gosod mesurau cadw pellter cymdeithasol llym
(Tudalennau 77 - 84)
3 Deisebau newydd
3.1 P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, ar gyfer teuluoedd sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad
(Tudalennau 85 - 93)
3.2 P-05-966 STOPIWCH yr isafbris am alcohol
(Tudalennau 94 - 102)
3.3 P-05-969 Ymchwiliwch i Reoliadau Drafft y Gronfa Ddata Addysg 2020 - diangen ac yn tanseilio hawliau dynol
(Tudalennau 103 - 117)
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
Addysg
Bydd y ddwy eitem a ganlyn yn cael eu trafod ar y cyd (4.1 a 4.2)
4.1 P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref
(Tudalennau 118 - 133)
4.2 P-05-923 Ydych chi’n gwrando arnom ni Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref
(Tudalennau 134 - 137)
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
4.3 P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant
(Tudalennau 138 - 144)
4.4 P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi'r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a'r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol
(Tudalennau 145 - 149)
4.5 P-05-946 Achub adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg
(Tudalennau 150 - 151)
Tai a Llywodraeth Leol
4.6 P-05-864 Gwahardd y defnydd o Bensaernïaeth Elyniaethus
(Tudalennau 152 - 153)
Economi a Thrafnidiaeth
4.7 P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55 A494)
(Tudalennau 154 - 159)
4.8 P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise)
(Tudalennau 160 - 191)
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
4.9 P-05-908 CF3 yn erbyn y Llosgydd
(Tudalennau 192 - 212)
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
4.10 P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONTFAEN RHAG EI DYMCHWEL
(Tudalennau 213 - 220)